Hidden Navigation

Croeso cynnes i Eglwys Newydd

Y plant sy’n dod gyntaf yma yn Si-lwli. Mae eu hanghenion cyfannol yn bwysig i ni ac yn nwylo staff proffesiynol a gofalus. Mae ein gofal plant ar gael i deuluoedd o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8 y bore a 6 yr hwyr.

Ar y llawr cyntaf mae deuddeg baban 6 mis oed a hŷn. Mae pob un yn cael ei feithrin i fod yn dwdlyn annibynnol, hyderus a hapus. Dyma pryd, tuag adeg yr ail ben-blwydd, y bydd y broses o drosglwyddo i’r dosbarth hŷn i lawr y staer yn dechrau. 

Ar gofrestriad baban mae yna weithiwr allweddol yn cael ei benodi ar ei gyfer fydd yn gweithio ochr yn ochr â’r teulu er mwyn darparu’r gofal a’r drefn a sefydlwyd eisoes. Bydd y broses o gyfathrebu gyda’r teuluoedd yn parhau wrth i’r plentyn dyfu a datblygu a’r angen i addasu’r drefn i gwrdd ag anghenion newydd ddod i’r amlwg. Fel rhan o’r broses cyfathrebu, mae croeso i deuluoedd drefnu cyfarfodydd anffurfiol gyda’u gweithiwr allweddol. 

Unwaith y bydd y plant (cyf 30) yn cyrraedd y dosbarth i lawr y staer maen nhw’n cael eu gosod yn ôl oed a datblygiad mewn grwpiau bychain o gyfoedion. Yn ystod y dydd bydd y staff yn annog y plant i chwilio’r byd, i ddatblygu eu hadnabyddiaeth ohonyn nhw eu hunain a thrwy hynny i ddatblygu eu hunan-barch a’u sgiliau bywyd. Mae o’n bwysig i ni fod plant yn chwarae ac yn cael hwyl. 

Yn yr Eglwys Newydd rydym yn ffodus iawn o fod cyferbyn â pharc cyhoeddus ac o fewn tro byr ar droed i siopau a chyfleusterau’r pentref. 

Mae dewis eang o wasanaethau a sesiynau i’w cael yn Si-lwli er mwyn darparu ar gyfer newidiadau yng ngofynion teuluoedd a maes gofal plant. Ein nod ydi bod mor hyblyg â phosib a darparu’r gwasanaeth gorau y gallwn ni ar eich cyfer. 

Rydym yn cynnig gwasanaeth hebrwng fel rhan o’n gwasanaeth cludiant i’r ysgol. Mae’r gwasanaeth cludiant yn wasanaeth unigryw ar gyfer teuluoedd sydd am i’w plant fynychu dosbarthiadau meithrin mewn ysgolion. 

Rydym hefyd yn cynnig sesiynau dwy awr a hanner ar gyfer plant sy’n hŷn na dwyflwydd oed fyddai’n mwynhau cael chwarae gyda chyfaill newydd wrth ddysgu Cymraeg. Fe allai fanteisio ar y gwasanaeth yma roi cyfle i chi gael ychydig o amser i chi’ch hun.

Cliciwch ar y ddelwedd isod i lawrlwytho ein cylchlythyr diweddaraf.