Llythyr Newyddion Ebrill / Mai 2008
Diwrnod Hyfforddi Staff - diolch unwaith eto am eich cydweithrediad a’ch cymorth efo’r dydd hyfforddi staff, pwnc y dydd oedd ‘Datblygu Gweithgareddau ac Asesu Plant’. Cawsom ddiwrnod llwyddiannus dros ben efo llawer o syniadau a gwybodaeth wedi eu rhannu. Mi fydd y Diwrnod Hyfforddi Staff nesaf yn cael ei chynnal yn ystod hanner tymor yr hydref, dydd, dyddiad a phwnc i’w drefnu.
Canllawiau Cwricwlwm Si-lwli – rydym nawr yn ymarfer y canllawiau cwricwlwm canlynol yn Si-lwli:
- ‘Birth to Three Matters’ - i blant o 6 mis oed i 3 blwydd oed, os hoffech gael gwybodaeth bellach ynghyn a’r rhaglen ymwelwch â www.surestart.gov.uk neu gofynnwch aelod o staff.
- ‘Y Cam Sylfaen’ - i blant o 3 blwydd oed i 7 blwydd oed, ymwelwch â www.wales.gov.uk a dilynwch linc ‘Education and Skills’ am ragor o wybodaeth.
Lotment - rydym wedi cychwyn datblygu’r lotment efo’r plant yn brysur yn plannu a pharatoi hadau. Mae ffurflen wedi eu gosod ar y drws ffrynt er mwyn cofrestru eich enw i helpu efo’r lotment, byddwn angen digon o help i ddechrau’r fenter newydd! Hefyd rydym angen sied ail law i roi ar y lotment siaradwch efo Nia neu Meinir os oes ganddo’ch chi neu os chi’n adnabod rhywun efo sied addas.
Talebau TESCO a SAINSBURY - rydym dal yn casglu talebau er mwyn archebu adnoddau ymarfer corfforol a chyfrifiaduron yn yr haf, dyma’r dyddiadau cau er mwyn bancio’r talebau
- TESCO – 1af o Orffennaf 2008
- SAINSBURY - 21ain o Orffennaf 2008
Diolch am eich cymorth – mae pob tamaid yn helpu!!
Cyfarfod Fforwm Rhieni - nol ym mis Chwefror cynhaliwyd ei’n cyfarfod fforwm rhieni cyntaf, diolch i’r rhai a wnaeth mynychu. Cawsom gyfle i rannu syniadau a derbyn adborth positif, os hoffwch ddarllen munudau'r cyfarfod siaradwch a Nia. Rydym wedi penderfynu cynnal y cyfarfodydd dwywaith y flwyddyn, cadwch lygaid allan am ddyddiadau pwysig.
Bwydlen Cinio Newydd - rydym wedi penderfynu ar fwydlen Mai / Medi, mae copi wedi ei glynu wrth y llythyr. Byddwn yn ddiolchgar am unrhyw adborth ynghyn a’r bwydlenni, siaradwch ac aelod o staff neu danfonwch e-bost i info@silwli.com , rydym yn rhedeg ar wythnos 2 ar hyn o bryd.
Polisïau ‘sy wedi adolygu - rydym wedi adolygu polisïau Anghenion Addysgol Arbennig ac Amddiffyn Plant, siaradwch a Nia neu Meinir os hoffwch ddarllen copi llawn o’r polisïau newydd, ymddiheurwn fod y rhain heb eu cyfieithu i’r Gymraeg eto.
Tymor Newydd Mis Medi - mae’r haf bron a chyrraedd! Os mae eich plentyn yn gadael Si-lwli ar ôl yr haf buaswn yn ddiolchgar am unrhyw rybudd o flaen llaw er mwyn trefnu sesiynau setlo i’r plant bach newydd. Os oeddwch yn bwriadu newid neu altro eich sesiynau ar ôl yr haf gadewch i ni wybod cyn gynted â phosib er mwyn i ni wneud trefniadau addas.
Newidiadau Staff - mae Anti Catrin wedi symud i’r feithrinfa yn Nhreganna er mwyn ehangu ar ei phrofiad. Mae hi wedi gweithio yma efo ni yn yr Eglwys Newydd am 4 mlynedd a nawr yn edrych ymlaen at ymuno a thîm newydd a chyfarfod plantos bach newydd. Mae Anti Rhiannon (lan llofft) yn ymadael yn ystod mis Mai er mwyn symud adref i Aberteifi, lle mae hi’n bwriadu arbed arian cyn mynd i drafeilio o gwmpas Canada, hoffwn ddiolch iddi am ei gwaith caled yn ystod y blynyddoedd a dymunwn bob lwc iddi ar ei thrafels! Mae Betsan Ap Dafydd wedi ymuno ar dîm, y mae Betsan yn ddylunydd colur proffesiynol hefo profiad o weithio efo plant bach yn y gorffennol mi fydd hi’n gweithio ar dermau rhan amser efo ni. Mae Anti Vicky wedi ehangu ei oriau gwaith lan llofft, mi fydd hi nawr yn gweithio ynghyd a Anti Sioned. Mae Vicky yn dysgu Cymraeg ac yn awyddus i ymarfer ei sgiliau ar y babis bach! Rydym yn recriwtio staff newydd ar hyn o bryd ac ymdrechwn i gadw chi fyny efo unrhyw ddatblygiadau.
Boreau Coffi - oherwydd mynychiad gwael yn y gorffennol rydym nawr wedi penderfynu cynnal boreau coffi yn dymhorol yn unig. Mae’r dyddiad nesaf i’w drefnu
Gwobr Buddsoddwyr Mewn Pobl - rydym wedi cael yr asesiad a nawr yn aros am y canlyniadau!
Llongyfarchiadau – i Anti Hayley ar enedigaeth Taylor fach mis diwethaf.
Gweithgareddau Haf - cadwch lygaid allan am ddyddiadau pwysig ar gyfer gweithgareddau'r haf, rydym yn trefnu parti Hwyl Fawr, diwrnod elusen a thrip meithrin.
Cylchlythyron y dyfodol - dyma’r cylchlythyr olaf ar bapur i ni ddanfon allan i rieni. O hyn ymlaen byddwn yn gosod copi o’r llythyr ar y wefan i chi ddarllen a phrintio os hoffwch, hefyd byddwn yn sicrhau bod copi ar gael yn y dderbynfa i rai sydd heb gyfrifiadur. Rydym yn ymdrechu lleihau'r papur sy’n cael ei defnyddio a'i wastraffu yn y feithrinfa a byddwn yn ddiolchgar am eich cydweithrediad gyda hyn.
Byddaf yn cychwyn ar fy nghyfnod mamolaeth wythnos nesaf, mae’r dyddiad geni mewn tair wythnos ac mae gennyf lawer o betha i’w sortio cyn hynny! Rwy’n bwriadu dychwelyd ym mis Ionawr a’r bychan efo fi. Diolch am eich dymuniadau gorau dros yr wythnosau diwethaf ac rwy’n siŵr o’ch gweld dros yr haf pan fyddaf yn picio mewn i weld y plant a dal i fyny efo’r staff. Hwyl fawr am y tro, Theresa J.