 |
 |
This site is available in English
& Welsh |
Treganna
Rydym yn cynnig gofal trwy gyfrwng y Cymraeg mewn awyrgylch hamddenol a chartrefol rhwng 8yb a 6yp. Leolir y meithrinfa mewn fflat llawr gwaelod sydd gyferbyn parc natur hyfryd llawn adar o bob math. Mae gan y meithrinfa iard chwarae yn y cefn sydd yn ddiogel ac yn breifat.
Mae Si-lwli wedi ymgofrestu i ofalu am 14 o blant rhwng 2 a 4 mlwydd oed gyda’r ASGC. Rhennir y plant mewn grwpiau o 4-5 i un aelod o’r staff. Mae hyn yn hyrwyddo rhyngweithiad cynnes rhwng y staff a’r plant ac mae’n gymorth bositif ar ddatblygiad personol a chymdeithasol mewn awyrgylch gofalus diogel.
Ein gofalwraig yw Rachel Knight. Mynychodd Ysgol Gyfun Rhydfelen ac yna Coleg Penybont gan astudio a chwblhau diploma CACHE mewn gofal plant. Mae Rachel eisioes wedi gweithio mewn nifer o feithrinfeydd cyn ymuno a Si-lwli yn mis Ionawr 2005. Mae hi nawr yn gweithio gyda tim proffesiynol gofalus, a’r plant yn cyfeirio atynyt fel “Anti”.
Rydym wedi cofrestru gyda’r awdurdod addysg leol ac yn derbyn talebau Meithrin sydd yn caniatau’r plant dderbyn addysg yn rhad ac am ddim am ddwy awr a hanner. Mae’r meithrinfa felly’n derbyn archwiliad ESTYN, ac ar hyn o bryd rydym yn dilyn cynllun Sylfaen “Phase pilot”, sydd yn pwysleisio’r angen i ddysgu drwy chwarae. Mae hyn yn cynnig dewis i’r plentyn gan ddatblygu ei anibyniaeth. Mae’r cynllun “pilot” yn canolbwyntio ar y saith maes addysgiadol.
• Datblygiad Chymdeithasol Personol ac Hunan Hapusrwydd
• Sgiliau Ieithyddol, Llenyddol a Chyfathrebu
• Datblygaid Mathemategol
• Dwyieithrwydd a Deallusrwydd aml-ddiwylliannol
• Gwybodaeth a Dealltwriaeth o’r byd
• Datblygiad Corfforol
• Datblygiad Creadigol
Am rhagor o wybodaeth ar yr agwedd sylfaenol ewch i’r safloedd yma ar y we:
www.learning.wales.gov.uk
www.acac.org.uk
www.cardiffeydcp.org.uk
Mae pedwar ystafell o fewn yr adeilad sydd yn cynnig amrywiaeth o gyfleuon hwylus er mwyn datblygu’r saith maes addysgiadol. Mae’r plant yn cael eu addysgu mewn ffordd bywiog er mwyn eu cyffrou ac i ddatblygu eu annibyniaeth a’u hyder.
Mae’r ystafell gefn yn darparu chwarae gweledol cyfoethog ac yn galluogi’r plant i ddefnyddio eu dychymyg er enghraifft-esgus bod yn swyddogion tan neu post, nyrsus ac yn y blaen.
Mae’r ystafell fwyaf wedi ei cynllunio er mwyn cynnig cyfle i’r plant ddefnyddio pob un o’u synhwyrau. Mae hyn yn eu lluogi i arbrofi ac archwilio unghyd a bod yn anniben!!
Mae’r ystafell blaen yn cynnwys cornel cerddorol ac amrywiaeth o degannau cyffrous ynghyd a gemau i’w chwarae wrth i’r byd tu allan i’r ffenestr rasio heibio.
Credwn yn gryf bod y byd tu allan yn leoll bwysig i’r plant o ran addysg ac archwilio sydd yn golygu ein bod ni’n defnyddio’r ardd a’r parc ym mhob tywydd

Ein nod yn Si-lwli yw gwneud amser cinio’n ddigwyddiad cymdeithasol, hapus,ac mae’n gyfle i’r plant gyflenwi eu egni gudag amrywiaeth o fwyd lliwgar, maethlon. Cliciwch fan hyn os hoffwch weld ein bwydlen ynghyd a’n cynllun i fwyta’n iachus.
 
Cliciwch fan hyn os hoffwch weld ein bwydlen ynghyd a’n cynllun i fwyta’n iachus.

Tal
| Gofal diwrnod llawn |
| 8yb-6yp |
| £33.50 |
Mae’r meithirnfa ar gau yn ystod wythnos y Nadolig (ni chodir tal am y cyfnod yma) rydym hefyd ar gau yn ystod gwyliau banc. Mi fydd y meithrinfa’n cau am dridiau ychwanegol yn ystod y flwyddyn sydd yn rhoi cyfle i’r staff mewnol dderbyn hyfforddiant. Bydd rhieni/gofalwyr yn derbyn o leia dau fis o rybudd ar gyfer y dyddiau yma ag eto ni chodir tal am y dyddiau hyn.
Hysbysfwrdd
Cylchlythyr 2008
Annwyl Rhieni
Blwyddyn Newydd Dda. Gobeithio bod pawb wedi cael cyfle i ymlacio a mwynhau yr wyl. Roedd Blwyddyn diwethaf yn flwyddyn brysur iawn i staff a phlant Si-lwli.
Yn ystod 2007 ffarwelion ddwy aelod o staff. Mae Louise wedi cychwyn cwrs Cyfraith ac yn mwynhau y sialens a mae Lowri yn gweithio yn ysgol Melyn Gryffydd efo’i chwaer. Hoffwn croesawu Llinos Lloyd a Llinos Jenkins i’r tim. Mae Llinos Lloyd yn adolygu yn Mhrif-Ysgol Caerdydd ac yn gweithio i Si-lwli ar Dydd Mercher. Mae Llinos Davies yn dysgu cymraeg ac yn awyddus i cael fwy o profiad o weithio efo plant cyn dilyn yrfa mewn ysgol, felly mae hi’n helpu allan dros cinio ac unrhyw cyfnodau ble mae staff yn sal neu ar cyrsiau.
Hoffwn estyn llongyfarchiadau i Rhiannon a Anna ar feichiogrwydd y ddwy. Mi fydd Rhiannon yn ymadael ar chyfnod o mamolaeth diwedd mis Ebrill ac Anna yn ystod yr haf. Yn ystod y misoedd nesaf mi fyddwn yn edrych am un aelod o staff sefydlog ac un arall i llenwi nes fydd y merched yn dod nol.
Llongyfarchiadau hefyd i Anti Rachel ar ei ddyweddiad i David, mae’r priodas wedi cael i trefnu ar y 7fed o Mis Medi.
Yn ystod 2007 fe wnaethom cynnal diwrnod hyfforddiant yn adeiladu ar gwaith a perthynasau y tim. Yn Si-lwli rydym yn credu bod hyfforddi staff yn bwysig er mwyn cynnal gwasanaeth o’r safon uchaf. Dyma’r hyfforddiant ac cymhwysterau mae’r staff wedi ennill yn ystod y flwyddyn:
Rachel Knight - Team leading lefel NVQ2
Arweinyddes Ysgol Goedwig (Fforest School)
Rhiannon Thomas- Team leading lefel NVQ2#
Anna O’Brien- Sioni’n Siarad (Speech and language therapy)
Sgiliau gwybodaeth technoleg (Cyfnod Sylfaen)
Fel y welwch mae’r gwaith addurno wedi cwbwlhau dros y Nadolig. Byddwn yn cadw ymalen i wella’r amgylchedd trwy gweithio ar yr ardd er mwyn sicrhau amgylchedd plyserus i’r plant.
Rydym wedi bod yn coginio cinio yn yr Eglwys Newydd a’i chlydio lawr i Tregana oddi ar i Louise ymadel yn yr haf. Mae’r proses yma wedi gweithio yn dda a byddwn yn parhau i wneud. Os oes gan unrhyw rhiant gofynion am y gwasanaeth gysylltwch a Nia ar 02920 626720 neu nia@silwli.eclipse.co.uk
Gweler y bwydlen newydd a glynnir i’r llythyr yma.
Mae trefniant y arolygaeth gan yr ASGGC wedi newid er Mis Medi 2007. Ni fyddwn yn derbyn dyddiad penodol ar gyfer yr arolygiaeth, ond cyfnod o amser mi fydd yr ymweliad yn medru digwydd, rydym yn ymwybodol bod arolygiaeth ni am ddigwydd o fewn y ddwy fis nesaf. Rhydym wedi dosbarthu holiaduron i chi cael gwerthuso gwasanaeth Si-lwli i’r arolygwr. Ar diwrnod yr arloygaeth mi fydd yr arolygwr yn cesio fod yn bresenol yn ystod amser agor neu cau y meithrinfa, felly wnewch eich hunan yn presenol i’r arolygwr os ydych am sgwrs.
Dyddiadau Pwysig
Nosweth Rhieni 27ain o chwefror
Noson Agored 5ed o Ebrill
Diwrnod Hyfforddiant Staff 25ed Mawrth
Efo’ch help rydym wedi casglu nifer o talebau Sainsburys a Tescos. Rydyni wedi archebu llawer o nwyddau argyfer datblygu sgiliau cyfrifiaduron y plant. A mae’r plant a’r staff yn dewis offer chwaraeon ar hyn o bryd ar gyfer 2008.
Rydym hefyd wedi cael grant i wario ar fwy o defnyddiau ar gyfer trosglwyddo amcanion yr Cam Sylfaen.
Rydym hefyd wedi codi arian ar gyfer nifer o elusenau werthfawr i Plant Mewn Angen casglwn £700!! DIOLCH yn fawr i bawb.
|