Read in English Read in Welsh
This site is available in English & Welsh

RHEOLIADAU

Mae ein ffioedd yn adlewyrchu cost darparu gwasanaeth o ansawdd uchel ac rydym ni’n cadw’r hawl i’w hadolygu o bryd i’w gilydd. Mae’r ffioedd yn cynnwys pryd dau gwrs, dau fyrbryd iach, nifer o ddiodydd a chyfraniad at unrhyw deithiau.
Caiff y biliau eu dosbarthu yn ystod wythnos olaf pob mis. Gellir talu’r ffioedd â siec yn daladwy i “Si-lwli”, arian parod, archeb sefydlog neu gyda thalebau gofal plant erbyn diwedd yr wythnos gyntaf. Codir dirwy ar rieni sy’n methu â gwneud hynny.
Os byddwch chi’n dewis talu drwy archeb sefydlog, caiff eich ffioedd cu cyfrif ar sail misoedd calendr a byddant yn daladwy ar ddiwrnod cyntaf bob mis. Cysylltwch â Nia i drafod y manylion.
Os ydych chi’n trefnu lle ar gyfer eich plentyn yn Si-lwli ar ddiwrnod arbennig, codir ffi arnoch ar gyfer y diwrnod hwnnw hyd yn oed os na fydd eich plentyn yn bresennol am unrhyw reswm. Caiff achosion o salwch difrifol neu farwolaeth yn y teulu eu hasesu’n unigol.
Bydd gofyn i chi dalu am wyliau banc ond dim am yr wythnos rhwng Nadolig ar Blwyddyn Newydd.

Polisi Iechyd a Salwch:

Iechyd

Mae staff Si-lwli wedi ymrwymo i hybu amgylchedd iach a gofalgar. Yn ystod y dydd, anogir y plant i fwyta’n iach a chadw meddwl a chorff bywiog.

Mae’r feithrinfa yn annog rhieni i ddod â brws a phâst dannedd i’r feithrinfa ar gyfer eu plentyn plant er mwyn iddynt lanhau eu dannedd ar ôl cinio.
Rydym ni’n cefnogi amddiffyn rhag yr haul a rhaid i rhieni ddarparu het haul ar gyfer eu plentyn yn yr haf. Mae Si-lwli yn darparu eli haul ond croeso i chi ddarparu eich eli eich hun.

Salwch

Dylech ddarllen y “Drefn eithrio yn achos salwch ac afiechydon heintus”, sef isafswm y cyfnodau y dylid cadw plant draw yn achos salwch. Rhaid cydymffurfio â’r rhain. Rhaid i’r staff ofalu am anghenion yr holl blant sy’n mynychu Si-lwli felly mae gan y staff uwch yr hawl i gysylltu â rhieni i ofyn iddynt ddod i gasglu unrhyw blant sy’n sâl. Rhaid i’r staff fod yn sicr fod y plentyn yn iach cyn ei dderbyn yn ôl. Caiff yr holl rieni wybod am unrhyw afiechydon heintus sy’n codi yn y feithrinfa.

Os oes anhwylder cronig ar unrhyw blentyn sy’n gofyn am ofal, triniaeth neu feddyginiaeth arbennig, mae’n bwysig bod y rheolwraig yn cael gwybod er mwyn i’r ffurflenni gwybodaeth perthnasol gael eu llenwi.

Os hoffech ddarllen rhagor am Iechyd a Salwch yn Si-lwli, gofynnwch i’r staff am gopi llawn o’r polisi.

Polisi Meddyginiaeth:

Ni chaiff y staff roi meddyginiaeth i blentyn oni bai ei bod wedi ei labelu â’r manylion canlynol: enw’r plentyn, y dos a’r dechneg o roi’r feddyginiaeth. Rydym ni’n hapus i roi hyd at ddau ddos o Paracetamol (Calpol) i blentyn heb bresgripsiwn ond ar ôl hynny rydym ni’n argymell eich bod chi’n gofyn am gyngor eich meddyg. Nid ydym ni’n cadw Paracetamol yn stoc y feithrinfa. Os oes meddyg wedi rhoi presgripsiwn gwrthfiotig i blentyn, rhaid cadw’r plentyn hwnnw draw o’r feithrinfa am y 24 awr (3 dos) cyntaf.

Wrth ddod â meddyginiaeth i’r feithrinfa, rhaid llenwi “Taflen meddyginiaeth”. Rhaid i’r rhiant/gofalydd nodi amser y dos diwethaf a llofnodi’r ffurflen. Bydd dau aelod o staff yn dyst i roi’r feddyginiaeth yn y feithrinfa a bydd y ddau yn llofnodi’r ffurflen. Ar ddiwedd y dydd, rhaid i’r rhiant/gofalydd lofnodi i ddangos eu bod nhw wedi casglu’r feddyginiaeth.

Os hoffech ddarllen rhagor am Feddyginiaeth yn Si-lwli, gofynnwch i’r staff am gopi llawn o’r polisi.

Polisi Damweiniau:

Mae lles yr holl blant yn Si-lwli yn holl bwysig i ni. Felly rydym ni’n wyliadwrus iawn wrth gofnodi damweiniau sy’n digwydd gan achosi anafiadau corfforol neu ddifrof emosiynol gyda’r nod o wella diogelwch ac atal anafiadau.
Caiff unrhyw ddamweiniau sy’n digwydd yn y feithrinfa neu’r tu allan eu cofnodi ar unwaith yn y ffolder damweiniau, am nad yw’n dderbyniol eu cofnodi ar ôl 24 awr yn ôl y gyfraith. Os oes unrhyw ddamweiniau wedi digwydd i’ch plentyn yn Si-lwli yna byddwn ni’n rhoi gwybod i chi beth ddigwyddodd ac yn gofyn i chi lofnodi’r ffurflen.

Os oes unrhyw arwyddion amlwg o anafiadau a wnaed y tu allan i ofal y feithrinfa ar eich plentyn, yna mae’n gyfrifoldeb arnom ni i lenwi ffurflen digwyddiad a buasem ni’n ddiolchgar i gael esboniad o’r anaf.
Os bydd eich plentyn yn dioddef anaf difrifol, byddwn ni’n rhoi gwybod i chi ar unwaith. Ni chaniateir i’r staff fynd â phlant am gyngor meddygol ar unrhyw gyfrif, felly os nad oes modd cysylltu â’r rhieni neu’r rhifau ffôn cyswllt mewn argyfwng, byddwn ni’n ffonio 999 a bydd aelod o’r staff yn mynd i’r ysbyty gyda’ch plentyn ac yn aros gyda’r plentyn nes i chi gyrraedd.

Os hoffech ddarllen rhagor am Ddamweiniau yn Si-lwli, gofynnwch i’r staff am gopi llawn o’r polisi.

Polisi Amddiffyn Plant:

Mae lles a diogelwch yr holl blant sydd yn ein gofal o’r pwys mwyaf. Mae dyletswydd ar staff Si-lwli fod yn ymwybodol bod camdriniaeth yn digwydd yn ein cymdeithas. Bydd yr holl staff yn mynychu sesiwn hyfforddi ar y pwnc sensitif hwn. Mae gan y feithrinfa bolisi a gweithdrefnau a gaiff eu dilyn os oes unrhyw reswm i gredu bod unrhyw blentyn yn ein gofal yn dioddef camdriniaeth gorfforol neu rywiol neu esgeulustod.
Mae gennym ddyletswydd i’r plant, y rhieni/gofalwyr a’r staff i weithredu’n gyflym ac yn gyfrifol mewn unrhyw achos sy’n dod i’n sylw. Mae gan yr holl blant ddyddiaduron personol sy’n cael eu defnyddio i nodi eu cynnydd o ran datblygiad ac ymddygiad a chaiff unrhyw bryderon difrifol eu dwyn i sylw’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am ymchwilio i faterion o’r fath.
Os gwneir honiad yn erbyn unrhyw aelod o staff, bydd CSIW a’r tîm amddiffyn plant lleol yn cael gwybod a byddwn ni’n dilyn gweithdrefn ddisgyblu Si-lwli.

Os hoffech ddarllen rhagor am Amddiffyn Plant yn Si-lwli, gofynnwch i’r staff am gopi llawn o’r polisi.

Cyfrinachedd:

Mae’n ofyniad cyfreithiol i ni gadw gwybodaeth am y plant sydd yn ein gofal a’r staff. Rydym ni’n defnyddio gwybodaeth sylfaenol am y plant fel enw, dyddiad geni a
chyfeiriad ar gyfer dogfennau fel y gofrestr, anfonebau a rhifau cyswllt mewn argyfwng, ond caiff yr holl gofnodion eraill eu storio mewn cwpwrdd wedi’i gloi.
Oherwydd natur ein gwaith mae’r staff yn dysgu llawer am y teuluoedd sy’n defnyddio Si-lwli er mwyn darparu gofal unigol o ansawdd da. Mae’r holl staff yn gwybod bod y wybodaeth hon yn gyfrinachol ac na ddylai gael ei defnyddio y tu allan i Si-lwli. Os daw cais i law am unrhyw wybodaeth, lluniau neu ffilmiau o’r plant am ba reswm bynnag, byddwn ni’n gofyn am ganiatâd y rhieni cyn eu rhyddhau bob tro.

Fodd bynnag, os ystyrir bod plentyn mewn perygl, bydd ein polisi amddiffyn plant yn drech na’n polisi cyfrinachedd.

Polisi Cyfleoedd Cyfartal ac Anghenion Arbennig:

Yn unol â’r polisi Cyfleoedd Cyfartal, bydd Si-lwli yn sicrhau bod eich plentyn yn cael parch a thriniaeth gyfartal heb unrhyw wahaniaethu ar sail rhyw, hil, lliw crefydd, tarddiad ethnig neu genedlaethol neu safbwyntiau gwleidyddol.

Mae Si-lwli yn ymrywio i roi cefnogaeth briodol i bob plentyn yn ein gofal sydd ag anghenion arbennig.  Rydyni yn cydnabod bod anghenion y plentyn yn medru newid a datblygu yn gyson, felly byddwn yn sicrhau y bydd y ddarpariaeth yn cyfarfod ag anghenion y plentyn.

Os hoffech ddarllen rhagor am Gyfleoedd Cyfartal ac Anghenion Arbennig yn Si-lwli, gofynnwch i’r staff am gopi llawn o’r polisi. Os oes unrhyw un o’r farn nad ydym ni’n cydymffurfio â’r polisi, mae’n ddyletswydd arnynt ddwyn y mater i sylw’r rheolwr cyn gynted â phosibl.

Polisi Ymddygiad:

Ein nod yn Si-lwli yw hyrwyddo hunanddisgyblaeth, hunan-barch a theimlad o bwysigrwydd  ymddygiad personol y plant, o ran  hamgylchedd ac o ran y bobl sydd o gwmpas iddynt. Byddwn ni’n rhoi gwybod i’r rhieni os yw eu plentyn yn gas wrth blant eraill yn gyson, os yw eu plentyn wedi cael ei gyffroi neu os yw’r plentyn yn dueddol o darfu ar y drefn ddyddiol gan ansefydlogi’r awyrgylch dysgu. Ni oddefir cosbau corfforol, na bygwth cosbau o’r fath yn Si-lwli. Ni fyddwn byth yn siglo, yn taro, yn bychanu nac yn codi cywilydd ar unrhyw blentyn. Fodd bynnag, o dan delerau Deddf Plant 1989, er mwyn diogelwch y plant eu hunain mae’n bosibl y bydd angen cymryd camau i ddal plentyn yn ôl mewn argyfwng er mwyn atal niwed corfforol i’r plentyn, plant eraill neu oedolyn neu er mwyn atal difrod difrifol i eiddo.

Mae Si-lwli yn cadw’r hawl i wahardd plentyn o’i ofal os yw’r rhieni yn gwrthod ymateb i gyngor ac argymhellion ac os yw’r plentyn yn parhau i beryglu ei hun neu blant eraill.

Os hoffech ddarllen rhagor am ymddygiad yn Si-lwli, gofynnwch i’r staff am gopi llawn o’r polisi.

Rhieni fel partneriaid:

Bydd staff Si-lwli yn gweithio gyda rhieni fel partneriaid wrth gynnig gofal o ansawdd i’w plant. Buasem yn ddiolchgar pe bai’r rheini yn cadw cysylltiadau da â ni gan roi gwybod i ni am unrhyw ddatblygiadau o ran gofal neu anghenion y plentyn. Caiff nosweithiau rhieni, diwrnodau agored a theithiau eu trefnu yn ystod y flwyddyn ac rydym ni bob amser yn gwerthfawrogi eich cefnogaeth ac unrhyw syniadau newydd. Croeso i rieni ymweld â’r feithrinfa ar unrhyw adeg.

Polisi Cwsg:

Mae’r plant lleiaf 12-18mis yn cysgu mewn cotiau, ar plant hyn yn cysgu ar fatres neu clystog ar y llawr. Mae’r plant bach yn cael cysgu pan fo angen neu ar awgrymiad y rhieni. Ar ol cael cinio mae’r plant hynaf (2+ oed) yn cael cysgu,dim mwy na awr, neu eto ar awgrymiad y rhieni. Wrth rhoi y plant i gysgu mae sawl aelod o staff yn ei chysuro, ac bydden yn cael ei arolygu’n agos iawn yn ystod y cyfnod cwsg. Mae dymis a unrhyw chysur yn cael ei ddefnyddio.

Gwasanaeth Clydio i’r Ysgol:

Mae gan y cerbyd insiwrant ‘Busnes Dosbarth Un’ mae o’n dal treth cerbyd llawn a tystysgrifau MOT, mae’r car yn cael ei gwasanaethu yn blynyddol. Fydd dim mwy na 5 o blant yn y car ar un pryd, mae nhw’n eistedd ar cadeiriau bwster efo gwregys amdanynt. Mi fydd dwy aelod o staff yn cydymdeithio’r plant i ysgol a mi fydd o leiaf un ohonynt yn dal cynhwyster gofal plant lefal 3.

Sylwadau da a Chwynion:

Rydym ni’n croesawu sylwadau da a syniadau newydd wrth i ni geisio gwella ansawdd ein gofal.

Wrth i chi a’ch plentyn ymadael â Si-lwli byddem ni’n ddiolchgar pe baech chi’n gallu llenwi holiadur a gadael unrhyw sylwadau yn ein blwch syniadau.

Os oes unrhyw gwynion gennych, rydym ni’n hapus i wrando arnynt a’u hystyried. Darllenwch y weithdrefn sydd ar yr hysbysfwrdd ac yn y llawlyfr rhieni. Os nad ydych chi’n teimlo bod eich cwyn wedi cael ei ddatrys yn foddhaol neu os ydych chi’n dymuno mynd â’ch cwyn ymhellach, cysylltwch â

Arolygiaeth Safonau Gofal Cymru
Swyddfa Rhanbarth Caerdydd
1 Alexander Road
Ffordd Pengam
Tremorfa
Caerdydd
CF24 2SB
029 20 478600

Casglu’n Hwyr:

Rydym yn disgwyl i’r plant cael ei gasglu erbyn 5:55yh, oherwydd rydym yn cau yn brydlon am 6:00yh. Os ydych yn rhedeg yn hwyr buaswn yn ddilochgar os gallwch ffonio o flaen llaw er mwyn rhybuddio’r staff, mae yna dirwy o £5 am pob chwarter awr ar ol 6:00yh.

Yn yr achos bod plentyn heb cael ei gasglu erbyn 6:10yh, a bod dim eglurhad gan y rhieni, mi fydd y staff yn ymdrechu i cysylltu efo teulu yr plentyn. Os oes dim cysylltiad yn cael ei neud mi fydd y staff yn ffonio Nia. Yn yr achos bod dim cysylltiad o gwbl erbyn 7:00yh mi fydd Nia yn ffonio’r Tim Argyfwng y Gwasanaethau Cymdeithasol. Mi fydd dau aelod o staff yn aros gyda’r plentyn nes bod trefniadau wedi ei wneud.



Si-Lwli Nursery Ltd
24, Park Rd, Whitchurch, Cardiff,
South Glamorgan
CF14 7BQ
Tel: 029 2062 6720


Si-Lwli
71, Romilly Rd, Cardiff,
South Glamorgan
CF5 1FL
Tel: 029 2066 7076