Staff

Mae’r perchennog yn cydweithio’n agos gyda’r rheolwyr a’n tîm o ofalwyr ymroddedig er mwyn darparu gofal ac addysg o’r safon uchaf. Mae’r plant yn galw ‘Anti...’ ar y staff, ac mae hyn yn cadarnhau’r awyrgylch cartrefol a chyfeillgar. Rydym yn ymfalchïo yng ngallu’r staff i siarad a gwrando ar y plant a darparu profiadau chwarae a thrafod symbylol ar yr un pryd.
Rydym yn recriwtio staff o’r ansawdd orau sy’n siaradwyr Cymraeg o bob cwr o Gymru. Mae hyn yn galluogi’r plant i brofi amrywiaeth diwylliant a gwerthoedd. Rydym ni hefyd yn recriwtio staff talentog ym meysydd cerddoriaeth, chwaraeon a chelf.
Mae pob arweinydd tîm wedi ei gymhwyso i lefel 3 mewn Addysg a Gofal Plant, ac wedi ei gefnogi gan Weinyddesau a Chymorthyddion Meithrin. Mae gan bob un o’r staff llawn amser dystysgrif cymorth cyntaf ac mae gan lawer ohonyn nhw dystysgrif trin bwyd. Mae recriwtio a chefnogi gweinyddesau meithrin dan hyfforddiant yn galluogi’r feithrinfa i gadw golwg ar y ddeddfwriaeth a’r ymchwil diweddaraf. Mae myfyrwyr a gwirfoddolwyr hefyd yn dod â syniadau newydd a chyffrous i’r tîm.
Mae pob aelod o staff neu myfyrwyr yn cael cofnod troseddol llawn cyn dechrau gweithio gyda'r plant yn annibynol ac mae rhain yn cael eu hadnewyddu pob tair mlynedd.
Yng nghyd-destun y feithrinfa rydym yn gweld ein swyddogaeth fel cyfaill, cynorthwywr, patrwm ymddygiad ac un sy’n siarad ar ran y plant yn swyddogaeth orfodol a byddwn yn ymdrechu bob amser i gynnal y safonau gofal uchaf ar eu cyfer.
Rydym yn annog ac yn cefnogi datblygiad proffesiynol y staff drwy hyrwyddo cyfleoedd hyfforddiant parhaus a thrwy gynnal Dyddiau Hyfforddiant Staff. Rydym yn cau tair gwaith y flwyddyn ar gyfer y dyddiau hyfforddiant yma.
Mae cymhareb oedolyn:plentyn y ddwy feithrinfa fel a ganlyn:
- plant 6 mis i 2 flwydd oedun aelod staff i 3 o blant
- plant 2 flwydd - 3 blwydd oed un aelod staff i 4 o blant
- plant 3 blwydd – 5 mlwydd oed un aelod o staff i 8 o blant
