Rhieni fel Partneriaid
Polisi Rhieni fel Partneriaid
Rydym ni yn Si-lwli’n sylweddoli fod rhaid inni feithrin perthynas gref, ffyddiog rhwng staff a rhieni er mwyn darparu gofal safon uchel i’r plant. Mae hi’n bwysig fod rhieni’n manteisio ar ein gwahoddiad iddyn nhw gymryd rhan a sôn am eu hanghenion wrth inni anelu at wella. Cyfathrebu yw’r allwedd i berthynas lwyddiannus ac o’r herwydd rydym wedi rhoi nifer o systemau ar waith i gyflawni’r angen hwn.
Mae’n glir yn yr holl bolisïau ein bod yn anelu at weithio gyda rhieni i sicrhau bod plant yn derbyn y gofal gorau. Mae dogfennau a chofnodion yn bodoli i roi a derbyn gwybodaeth gywir. Ar wahân i’r polisïau rydym hefyd yn darparu’r gwasanaethau canlynol i gryfhau’r berthynas weithio rhwng rhieni/gofalwyr a rhieni a hefyd rhwng rhieni a staff.
__Dylai’r broses o feithrin perthynas ddechrau’n syth er mwyn gwneud y trawsnewidiad rhwng cartref a meithrin yn haws i’r plant. Caiff rhieni eu cyflwyno i weithiwr allweddol eu plentyn ar unwaith ac mae cyfnewid gwybodaeth yn dechrau. Rydym yn rhoi gwaith papur i rieni i roi arweiniad iddynt ar wybodaeth benodol y bydd ar staff ei hangen.
__Mae pob hysbyseb ar gyfer digwyddiadau, arolygon a gweithgareddau a themâu i blant eu cael eu harddangos ar yr hysbysfwrdd (sydd yn y neuadd). Anogir rhieni i edrych yn rheolaidd ar yr hysbysfwrdd am yr wybodaeth ddiweddaraf.
__Caiff llythyrau newyddion eu cynhyrchu bob chwarter i hysbysu rhieni a theuluoedd o unrhyw ddatblygiadau yn y feithrinfa, sy’n cael eu rhoi ar yr hysbysfwrdd ac ar y wefan.
__Anogir rhieni i gymryd rhan yn y digwyddiadau sy’n cael eu trefnu ac yn ein fforwm rhieni sy’n cael ei chynnal ddwywaith y flwyddyn.
__Rydym wedi cael rhandir yng Ngogledd Llandaf ac rydym yn annog rhieni i gymryd rhan yn y gwaith. Byddant yn cael budd drwy gyfrwng y profiadau a rônt i’w plant a’r cynnyrch y byddant yn bwyta!
__Trefnir boreau coffi a nosweithiau rhieni’n rheolaidd.
Canmol a Chwyno
Nod Si-lwli yw darparu gofal uchel ei safon bob amser. Er mwyn ymgyrraedd at hyn rydym wedi bod yn ymwneud ag amryw o gyrff sicrhau ansawdd: Mae hyn yn ein galluogi i arolygu ansawdd ein gwasanaeth yn unol â chanllawiau penodedig. Hyd yn hyn rydym wedi ennill y dyfarniadau canlynol:
Yr Eglwys Newydd – Buddsoddwyr mewn Pobl, Dyfarniad lefel 1 Mae Ansawdd yn Cyfrif y Gymdeithas Meithrinfeydd Genedlaethol, Dyfarniad Byrbryd Iach
Cliciwch yma i ddarllen yr adroddiad ansawdd gan y Cymdeithas Meithrinfeydd Genedlaethol (NDNA)
Treganna - Buddsoddwyr mewn Pobl, ‘Cylch Rhagorol’ wedi’i ddyfarnu gan Fudiad Ysgolion Meithrin, Dyfarniad Byrbryd Iach
Cofrestrodd Si-lwli hefyd gyda’r Awdurdod Addysg Lleol i ariannu addysg i blant 3-4 oed ac fel rhan o’r cynllun rydym yn rhwym i gael Arolwg ESTYN.
Cliciwch yma i weld yr adroddiad diweddarach www.estyn.gov.uk
Rydym yn croesawu sylwadau a syniadau newydd wth inni ymgyraedd at wella ansawdd ein gofal. Mae rhwydd hynt ichi siarad gyda staff am unrhyw argymhelliad sydd gennych neu rhowch eich syniadau yn y blwch syniadau sydd yn y cyntedd blaen. Caiff holiaduron eu dosbarthu hefyd drwy gydol y flwyddyn i’n cynorthwyo ni i arolygu ansawdd y gofal.
Os oes gennych chi unrhyw gwynion rydym yn hapus i wrando ac ystyried. Dewch yn gyfarwydd gyda’n trefn gwyno sydd ar ein hysbysfwrdd ac yn y llawlyfr rhieni. Os teimlwch nad yw’r gwyn wedi’i datrys mewn modd sy’n eich bodloni neu’n teimlo yr hoffech chi fynd â’r gwyn ymhellach cysylltwch ag
Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru, Swyddfa Ranbarthol Caerdydd
1 Ffordd Alecsander, Ffordd Pengam, Tremorfa, Caerdydd, CF24 2SB
Ffôn: 029 20 478600
Cliciwch yma i weld yr adroddiad diweddarach wales.gov.uk/cssiwsubsite
