Polisi Derbyn
Polisi Derbyn – Yr Eglwys Newydd
Mae amod ein cofrestriad gydag Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) a’n polisi pennaf parthed derbyn plant fel a ganlyn “Y nifer fwyaf o blant (oed): 42 plentyn o 6 mis i 5 mlwydd oed gyda dim mwy o blant o 6 mis i 2 flwydd oed”.
Polisi Derbyn – Treganna
Mae Meithrinfa Si-lwli wedi’i chofrestru gydag Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru ar gyfer 16 plentyn rhwng dwyflwydd oed a phum mlwydd oed. Dyma’n polisi pennaf parthed derbyn plant.
Caiff plant eu derbyn i Si-lwli yn unol â gofynion y rhieni/gofalwyr a nifer y llefydd sydd ar gael. Rydym yn gweithredu polisi nad yw’n gwahaniaethu mewn unrhyw fodd ar sail rhyw, crefydd, lliw, credo neu iaith. Os oes diddordeb mawr bydd Si-lwli yn cadw at y drefn hon wrth neilltuo sesiynau:
__Mae gennym bolisi cyntaf i’r felin yn unol â’n rhestr aros.
__Bydd plant sy’n frodyr neu’n chwiorydd i blant sydd eisoes gyda ni yn cael blaenoriaeth.
__Rhoddir blaenoriaeth i lefydd llawn amser.
__Caiff sesiynau a gynigir i rieni eu gwrthod oni dderbynnir blaendal yn yr amser penodedig.
Polisi Talu
1. Wrth gofrestru codir tâl gweinyddol o £25 na ellir ei ad-dalu. Anfonir llythyr o gadarnhad cyn gynted ag y bydd y dyddiau y gwnaed cais amdanynt ar gael. Bydd angen i rieni gadarnhau eu bod yn derbyn drwy gyfrwng llythyr neu e-bost, a dylent gynnwys pris wythnos fel blaendal. Caiff y blaendal ei ad-dalu ar ffurf credyd yn yr anfoneb olaf o roi mis o rybudd.
2. Mae’n prisiau’n adlewyrchu’r gost o ddarparu gwasanaeth o ansawdd uchel sy’n cynnwys pryd dau gwrs, byrbrydau iachus, llaeth fformiwla, nifer o ddiodydd a theithiau gyda chymorth ariannol. Caiff ein prisiau eu hadolygu bob blwyddyn ym mis Ebrill a byddwn yn hysbysu rhieni os oes unrhyw newidiadau yn ein cyfradd.
3. Caiff biliau eu danfon yn ystod wythnos olaf y mis. Gellir talu gyda siec yn daladwy i “Si-lwli”, arian, archeb sefydlog neu gyda thalebau gofal plant. Rhaid talu erbyn y dyddiad a nodir ar yr anfoneb. Os na fyddir wedi talu erbyn y dyddiad sydd wedi’i benodi codir tâl ychwanegol o 10% a gaiff ei ychwanegu at yr anfoneb nesaf. Os na wneir taliad yn unol â’r anfoneb cadwn yr hawl i derfynu’n gwasanaeth. Yn ogystal â’r tâl ychwanegol a soniwyd amdano uchod os oes tâl yn ddyledus ar ôl cyfnod o 28 diwrnod, codir llog ar y swm sy’n weddill ar gyfradd o 8% bob blwyddyn.
4. Os dymunwch dalu gydag archeb sefydlog bydd eich ffioedd yn cael eu cyfrifo ar sail misoedd calendr (wedi’u cyfrifo dros 51 wythnos). Dylid eu talu ar y diwrnod cyntaf o bob mis. Cysylltwch â’r rheolwr i drefnu manylion.
5. Codir tâl am bob diwrnod mae’ch plentyn i fynychu Si-lwli, gan gynnwys y dyddiau nad yw’n bresennol. Mae derbyn cais i beidio â thalu ffioedd i fyny i ni yn llwyr.
6. Codir ffioedd yn ôl yr arfer ar wyliau banc ond ni chodir ffioedd yn ystod cyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd.
7. Rydym wedi’n cofrestru gyda’r Awdurdod Addysg Lleol i roi dwy awr a hanner o addysg i blant 3-4 mlwydd oed am ddim. Gellir defnyddio’r arian sydd gennym ar gyfer diwrnod cyfan neu hanner diwrnod yn unig. Caiff yr arian ei dynnu oddi ar yr anfoneb fisol.
Cyfrinachedd
Mae’n ddyletswydd arnom i gadw gwybodaeth am ein staff a’r plant sydd o dan ein gofal. Caiff yr wybodaeth a gesglir ei chofnodi ar gyfrifiadur sydd wedi’i diogelu a defnyddir pecyn meddalwedd rheoli i lunio dogfennau manwl gywir fel y cofrestrau, anfonebion a rhestr o rifau ffôn mewn argyfwng. Mae Si-lwli wedi’i chofrestru o dan y Ddeddf Gwarchod Data ac mae copi o’r dystysgrif yn cael ei arddangos yn y dderbynfa. Bydd pob cofnod a dogfen ysgrifenedig yn cael eu cadw mewn cwpwrdd sydd dan glo.
Oherwydd natur ein gwaith mae staff yn dysgu cryn dipyn am deuluoedd sy’n defnyddio Si-lwli er mwyn darparu gofal unigol o safon. Mae’r holl staff yn ymwybodol fod yr wybodaeth hon yn gyfrinachol ac i’w ddefnyddio yn Si-lwli yn unig. Fodd bynnag, os ystyriwn fod plentyn mewn peryg bydd ein Polisi Amddiffyn Plant yn drech na chyfrinachedd.
Cyfleoedd Cyfartal
Yn unol â’r Polisi Cyfleoedd Cyfartal, bydd Si-lwli yn sicrhau y caiff pawb eu parchu â’u trin yn gyfartal heb wahaniaethu ar sail rhyw, hil, lliw, cred, iaith, cenedl, cenedligrwydd neu gredoau gwleidyddol.
