Hidden Navigation

Patrwm Diwrnod

Mae’r plant yn cyrraedd yn llawn hwyl a disgwyliadau ar gyfer y diwrnod sydd o’u blaenau ac yn edrych ymlaen at gael chwarae gyda’i ffrindiau.

Mae'r plant bach, lan llofft, yn cael cynnig brecwast ac yna’n dechrau ar anturiaethau bywyd y feithrinfa. Bydd gweithgareddau hwylys, lliwgar a diddorol ar gynnig I’r plant gyda digon o gyfleoedd I wneud llanast yn ystod gweithgareddau mess, archwilio amrywiaeth o ddeunyddiau yn yr ardd a nifer o ardaloedd esmwyth a chysurus I ymlacio ar ol prysurdeb y gweithgareddau. Bydd Cinio yn cael ei weini am 11:30am a te ysgafn am 4:00pm. Bydd cyfle I bob plentyn gael cwsg pan angen yn dibynnu ar eu rwtin personnol nhw.

Mae’r plant lawr llawr yn cael cynnig amrywiaeth o weithgareddau yn sail ar eu anghenion datblygol. Ynghyd a’r cam sylfaen, bydd yr holl feithrinfa yn agored gan gynnwys yr ardd er mwyn I’r plant gael rhyddid I ddewis pa weithgaredd hoffen eu gwneud. Mae’r ardd yn estyniad o’r feithrinfa ac yn cael ei ddefnyddio drwy gydol y dydd, ac ymhob tywydd, ac mae’r hwyl yn gallu bod yn fwdlyd!! Bydd yr Anti’s yn cynnal amser cylch gyda’r plant am 9:00yb ac 11:30yb ble bydd cyfle I ddweud helo wrth ein ffrindiau, sgwrsio, cael stori neu canu. Am 9:45yb bydd y plant yn cael snac o dost, crumpet neu ffrwythau, am 12:00 bydd cinio yn cael ei weini a te ysgafn rhwng 4-4:30yp. Mae croeso I’r plant fengaf gael cwsg yn y prynhawn os hoffen, bydd amser cwsg rhwng 1:00-2:00yp.

Yma yn Si-lwli mi fyddwn ni’n cynnal tripiau grŵp fel bod y plant i gyd yn cael mwynhau mynd i lefydd megis y llyfrgell a’r parc, i fferm a’r theatr. 

Amcan y diwrnod ydi cael HWYL a mwy o HWYL!