Patrwm Diwrnod
Mae’r plant yn cyrraedd yn llawn hwyl a disgwyliadau ar gyfer y diwrnod sydd o’u blaenau ac yn edrych ymlaen at gael chwarae gyda’i ffrindiau. Mae pawb sydd eisiau brecwast yn ei gael ac yna’n dechrau ar anturiaethau bywyd y feithrinfa. Mae’r plant ieuengaf yn cael eu cyflwyno i weithgareddau chwarae lliwgar a llawn symbyliaeth, tra bo’r plant hŷn cymryd rhan mewn gweithgareddau grŵp sy’n datblygu dewis eang o fedrau – yn amrywio o wella mân-sgiliau trin a symud, i ddatblygu iaith ac ymwybyddiaeth fathemategol. Mae’r plant yn cael amser stori ac amser chwarae rhydd yn yr awyr agored cyn cinio.
Mae amser cinio oddeutu hanner dydd ac mae’r staff a’r plant yn bwyta gyda’i gilydd.
Yn ystod cyfnod cwsg y plant ieuengaf bydd y plant hŷn efallai’n mynd am dro. Wedi dychwelyd bydd y plant yn rhannu profiadau mewn sesiwn gylch, ac mae hyn yn hybu eu Gwybodaeth a’u Dealltwriaeth o’r Byd.
Mae’r plant ieuengaf yn deffro’n llawn bywyd unwaith eto ac yn barod i fentro ar nifer o weithgareddau cyffrous. Maen nhw’n dysgu chwilio, adeiladu, darganfod, creu a dychmygu ac i ddefnyddio’u synhwyrau i gyd mewn rhannau pwrpasol o’r feithrinfa. Mae’r ardd yn estyniad o’r feithrinfa ac yn cael ei ddefnyddio drwy gydol y dydd, ac ymhob tywydd, ac mae’r hwyl yn gallu bod yn fwdlyd!!
Bydd y plant yn paratoi te bach iddyn nhw eu hunain ac wedyn yn cymryd rhan mewn gweithgareddau tawelu megis edrych ar lyfrau, gemau bwrdd, jig-sos a chwarae yn yr ardd. Yna mae hi’n amser i ffarwelio a dal i fyny â newyddiona digwyddiadau’r teulu.
Yma yn Si-lwli mi fyddwn ni’n cynnal tripiau grŵp fel bod y plant i gyd yn cael mwynhau mynd i lefydd megisy llyfrgell a’r parc, i fferm a’r theatr.
Amcan y diwrnod ydi cael HWYL a mwy o HWYL!
