Hidden Navigation

Treganna

Y plant sy’n dod gyntaf yma yn Si-lwli. Mae eu hanghenion cyfannol yn bwysig i ni ac yn nwylo staff proffesiynol a gofalus. Mae ein gofal plant ar gael i deuluoedd o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8 y bore a 6 yr hwyr. Mae’r feithrinfa yn dwt a chartrefol a mae’r perthnasau clos sydd gennym gyda’r teuluoedd yn cael eu magu. Mae’r gofal ar gynnig I blant o 2 mlwydd oed nes y byddent yn barod I ddechrau bywyd ysgol yn 5 oed.

Yn ystod y dydd mae’r staff yn hybu’r plant I archwilio a darganfod eu hunain fellu yn datblygu hunnain hyder a sgiliau bywyd. Drwy sicrhau y rhyddid I ddewis a chwarae mae’r plantos yn cael eu magu I fod yn bobl bach haous, hyderus ac annibynnol

Ar gofrestriad plentyn mae yna weithiwr allweddol yn cael ei benodi ar ei gyfer fydd yn gweithio ochr yn ochr â’r teulu er mwyn darparu’r gofal a’r drefn a sefydlwyd eisoes. Bydd y broses o gyfathrebu gyda’r teuluoedd yn parhau wrth i’r plentyn dyfu a datblygu a’r angen i addasu’r drefn i gwrdd ag anghenion newydd ddod i’r amlwg. Fel rhan o’r broses cyfathrebu, mae croeso i deuluoedd drefnu cyfarfodydd anffurfiol gyda’u gweithiwr allweddol. 

Yn Nrheganna rydym yn ffodus iawn o fod gyferbyn â pharc cyhoeddus ac o fewn tro byr ar droed i siopau a chyfleusterau’r pentref. 

 

Click on the image below to download our latest weekly report .

 

"I love my nursery here, as the home of a big family . " Mother Mali 2006