Hidden Navigation

 

Materion Iechyd

Polisi Salwch a Chymorth Cyntaf

Dewch yn gyfarwydd â “Y drefn gadw gartref ar gyfer salwch a chlefydau heintus”. Dyma’r cyfnodau byrraf y dylid cadw plant gartref a dylid ymlynu wrthynt.

Mae staff yn gofalu am holl anghenion y plant sy’n mynychu Si-lwli felly gall y staff uwch gysylltu â rhieni os daw salwch ar y plentyn neu os oes ganddo symptomau sy’n peri pryder. Petai damwain neu salwch difrifol gofynnir i rieni fynd â’u plentyn gartref ar unwaith. Mewn achos annhebygol lle nad yw’r rhiant/gofalwr ar gael cysylltir â’r person cyswllt mewn argyfwng. Os oes angen sylw meddygol di-oed fe gysyllti’r â’r parafeddygon a bydd aelod o staff yn mynd gyda’r plentyn. Cofnodir pob damwain yn y llyfr damweiniau. Mae rhestr o’r holl staff sy’n gymwys i roi cymorth cyntaf i’w weld ar ein bwrdd Iechyd a Diogelwch ger y drws cefn.

Rhaid i staff fod yn sicr fod y plentyn yn dda ei iechyd cyn y caiff ddychwelyd

Bydd yr holl rieni’n cael eu hysbysu o unrhyw glefydau heintus sydd ar unrhyw blentyn yn y feithrinfa.

Os oes salwch parhaol ar blentyn a bod arno angen gofal, triniaeth neu feddyginiaeth arbennig mae’n bwysig fod y rheolwraig yn cael ei hysbysu er mwyn cwblhau rhagor o ffurflenni gwybodaeth


Meddyginiaeth

Gall staff roi meddyginiaeth sydd ar bresgripsiwn yn unig i blentyn . Rhaid iddo gael ei labelu gyda manylion am enw’r plentyn, dogn y feddyginiaeth a sut i’w roi. Rydym yn fodlon i roi Parasetamol (calpol) hyd at ddau ddiwrnod ar ôl ei gilydd heb bresgripsiwn ond ar ôl hynny rydym yn argymell ichi ofyn am gyngor meddygol. Nid ydym yn cadw parasetamol yn stôr y feithrinfa.

Os oes gan blentyn bresgripsiwn am gwrthfiotigau rhaid iddynt aros gartref am y 24 awr cyntaf, sydd gyfystyr â thri dogn.

Wrth ddod â’r feddyginiaeth i’r feithrinfa rhaid cwblhau “taflen cofnod Meddygol.” Bydd angen i’r rhiant / gofalwr nodi amser y dogn diwethaf ac arwyddo’r daflen. Bydd dau aelod o staff yn dyst i roi’r feddyginiaeth a byddant yn arwyddo ffurflen.

Ar ddiwedd y dydd bydd rhaid i’r rhiant/gofalwr arwyddo eu bod wedi derbyn y feddyginiaeth.


Y DREFN GADW GARTREF AR GYFER SALWCH/CLEFYD HEINTUS

Clefyd/Salwch/ Cyfnodau byrraf o gadw gartref o’r Feithrinfa

__Presgripsiwn am gwrthfiotigau/ Diwrnod cyntaf gartref
__Tymheredd/ Os anfonwyd gartref, rhaid i’r plentyn fod gartref am 24awr
__Chwydu/ Os anfonwyd gartref, rhaid i’r plentyn fod gartref am 24awr
__Llid yr amrant (Conjunctivitis) / Cadw gartref am o leiaf un diwrnod, mwy os yw’r llygaid yn parhau i ddiferu.
__Dolur rhydd / 24 awr neu nes cael 2 gewyn glân
__Brech yr ieir / 7 diwrnod wedi ymddangosiad y frech
__Gastro-enteritis, gwenwyd bwyd, salmonellosis and dysenteri / 24 awr neu nes cael 2 gewyn glân neu ar gyfer clefydau sy’n rhaid eu datgan yn swyddogol, nes fo’r swyddog gwasanaeth iechyd penodol yn cynghori fel arall.
__Llid yr afu heintus / 7 diwrnod wedi i’r clefyd melyn ddechrau
__Y Frech Goch / 7 diwrnod wedi ymddangosiad y frech
__Heintiad Meningocaidd / Nes gwella
__Y dwymyn doben / nes fo’r chwyddo wedi cilio ac nid llai na 7 diwrnod o ddechrau’r salwch ar unrhyw achlysur.
__Y pas (whooping cough) / 21 diwrnod ar ôl i beswch ysbeidiol ddechrau
__Ffliw Moch / 48 awr ar ôl i’r symptomau ddiflannu. Rhaid i’r plentyn fod wedi gwella’n llwyr cyn dychwelyd
__Y dwymyn goch a haint streptococol ar y gwddf / Nes cael triniaeth feddygol briodol ac nid cyn 3 diwrnod ar ôl dechrau’r driniaeth ar unrhyw achlysur
__Y Diciâu / Nes i’r swyddog iechyd cyhoeddus priodol ddatgan nad oes haint ar y plentyn
__Teiffoid / Nes i’r swyddog iechyd cyhoeddus priodol ddatgan nad oes haint ar y plentyn
__Impetigo /Nes fo’r croen wedi gwella
__Pedicwlosis (llau) / Nes cael triniaeth briodol
__Dafaden y droed / Dim cadw gartref. Dylid eu trin a’u gorchuddio
__Darwden y pen / Nes gwella
__Darwden y corff / Anaml bod angen cadw gartref os ydynt yn cael triniaeth
__Y clefyd crafu / Dim angen cadw gartref unwaith i’r driniaeth briodol gael ei rhoi.

www.nhsdirect.nhs.uk