Hidden Navigation

 

Polisiau Lles y Plant

Polisi Amddiffyn Plant
Cydlynydd Amddiffyn Plant Si-lwli: Theresa Ellen Kane (Eglwys Newydd) a Rachael Dulieu (Treganna)
Ein nod yw sicrhau bod ein meithrinfa yn le lle mae plant yn ddiogel a lle nad oes unrhyw berygl iddynt gael eu niweidio na’u cam-drin. Byddwn yn mynd i’r afael ag unrhyw amheuaeth o gam-drin yn gyflym, yn briodol ac yn gwbl ddifrifol. Er mwyn gwneud hyn byddwn yn:

Gwahardd Camdrinwyr Hysbys
__Rhaid i staff lwyddo mewn trefn gyfweld fanwl ac ymarferol.
__Byddwn yn gofyn am ddwy dysteb, un ohonynt yn dysteb lafar.
__Bydd staff yn cael sesiwn anwytho lle cyflwynir y drefn Amddiffyn Plant a llyfryn gwybodaeth.
__Bydd ffurflen Hunan Ddatganiad yn cael ei chwblhau cyn dechrau unrhyw waith gyda’r plant.
__Byddwn yn ceisio Tystysgrif Datgeliad Uwch gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol.
__Nes dychwelir y datgeliad ni chaiff staff eu gadael gyda phlant heb neb yn eu goruchwylio.
Unwaith y dychwelir y datgeliad caiff staff eu cyflogi gyda chyfnod prawf o dri mis.
__Os dangosir unrhyw ddedfryd/rhybudd ar y datgeliad am droseddau’n ymwneud â phlant caiff yr aelod o staff eu diswyddo ar unwaith.

Trefnu a Darparu Hyfforddiant
__Byddwn yn trefnu Hyfforddiant Sirol Amddiffyn Plant i bob aelod o staff yn ystod eu cyflogaeth gyda Si-lwli i’w galluogi i adnabod arwyddion camdriniaeth a gwybod sut i ymateb iddynt. Byddwn yn ail-hyfforddi bob 3 blynedd.
__Rydym wedi prynu pecyn hyfforddi’r NSPCC a fydd yn cael ei ddefnyddio gan y Cydlynydd Amddiffyn Plant i roi hyfforddiant adfywio i staff ac hefyd tra bod staff yn aros am eu hyfforddiant ffurfiol.
__Bydd yr holl staff yn gallu defnyddio’r llyfryn ‘What to do if you’re worried a child is being abused’ gan yr Adran Plant, Ysgolion a Theuluoedd a byddant yn cael copi o’r llyfryn ‘Worried about a Child - how to protect children from abuse’ gan yr NSPCC.
__Rydym yn cydnabod y gall y staff hynny sy’n ymwneud â materion Amddiffyn Plant ei chael hi’n anodd a byddwn yn cynnig cefnogaeth yn unol â hynny.

Cadw Cofnodion
__Pa bryd bynnag y sylwir ar newidiadau sy’n peri pryder mewn ymddygiad, golwg neu gyflwr corfforol plentyn fe gedwir cofnodion manwl a chyfrinachol - bydd ffurflen ddigwyddiad yn cael ei chwblhau.
__Bydd y cofnodion hyn ar wahân i’r cofnodion parhaus, arferol o gynnydd a datblygiad plant.
__Rhaid i bob cofnod fod yn fanwl heb sylw na dehongliad a’i gadw’n gwbl gyfrinachol.
__Gellir defnyddio map corff hefyd.
__Rhaid dwyn popeth sy’n peri pryder at uwch aelod o staff neu’r Cydlynydd Amddiffyn Plant ar unwaith. Byddwn wedyn yn cymryd camau priodol wrth ymdrin â’r pryderon drwy ddilyn y canllawiau a amlinellir yn ‘Gweithdrefn Amddiffyn Plant Cymru Gyfan 2008’.
__Bydd cynllun yr ystafelloedd chwarae yn sicrhau bod modd goruchwylio ac arsylwi plant bob amser.

Bydd y dulliau gweithredu canlynol yn mynd rhagddynt petai honiadau’n cael eu gwneud am aelod o staff neu wirfoddolwr/wraig.
__Y Drefn Gyhuddo
__Y Drefn Gwyno
__Y Drefn Ddisgyblu
__Y Drefn Gyfrinachedd

Byddwn yn sicrhau y caiff unrhyw honiad a wneir ei gofnodi ar ffurf ffurflen ddigwyddiad ac yr ymchwilir iddo yn y dull priodol. Byddwn o ddifrif am yr honiad ac ymchwiliwn iddo’n ddi-oed. Byddwn yn cysylltu ag Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru neu’r Tîm Amddiffyn Plant am gyngor ynglŷn â sut i fynd rhagddi.

Y bobl sy’n gyfrifol am ddulliau gweithredu o’r fath yw: 
__Nia Bowen – Perchennog 
__Theresa Kane – Rheolwraig a Chydlynydd Amddiffyn Plant
__Rachel Dulieu – Reolwraig a Chydlynydd Amddiffyn Plant

Gweithredu Uniongyrchol a Chyfeirio Materion: 
__Tîm Dyletswydd: Gofal Cymdeithasol ac Iechyd, Blwch Post 97 CF11 1BP 
__Tîm Derbyn ac Asesu: 02920 536 400 
__Tîm Argyfwng: 02920 444 360 
__Yr Heddlu: 999

 

Polisi Anghenion Arbennig
Mae’r polisi hwn yn cynnwys gwybodaeth am Anghenion Addysgol Arbennig, Anghenion Dieteg Arbennig ac Anghenion Meddygol Arbennig neu Anableddau.

‘Mae gan bob plentyn yr hawl i gael ei gynnwys ym mhob agwedd o gymdeithas. Ni ddylai plant anabl orfod gofyn na brwydro i gael eu cynnwys yn y pethau mae plant eraill yn eu gwneud. Mae cael eich cynnwys yn hawl o dan gyfraith Prydain (y Deddfau Gwahaniaethu ar sail Anabledd) ac o dan y gyfraith ryngwladol (Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn).’

Mae awyrgylch Si-lwli yn awyrgylch gadarnhaol lle caiff amrywiaeth o gyfleoedd eu rhoi i bob plentyn, beth bynnag fo’u hanghenion, er mwyn datblygu medrau a chysyniadau newydd gyda staff, plant a rhieni’n cyfrannu a chefnogi’n llwyr.

Nodau
__Mae Meithrinfa Si-lwli yn parchu Gorchymyn Cod Ymarfer Anghenion Addysgol Arbennig Cymru 2002.
__Byddwn yn cydweithio â rhieni gan fod yn gyfrinachol bob amser.
__ Caiff rhieni eu hysbysu ym mhob cyfnod o asesu, cynllunio, darparu ac arolygu gofal eu plant.
__Bydd rhieni’n cael eu hannog i gyfrannu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o’u plentyn, ac i fynegi unrhyw bryderon sydd ganddynt am anghenion eu plentyn ac am y ddarpariaeth a wneir ar eu cyfer.
__Rydym yn sicrhau fod darparu ar gyfer plant ag anghenion ychwanegol yn gyfrifoldeb ar yr holl staff. Caiff ein staff eu hyfforddi i gynorthwyo i gefnogi plant ag Anghenion Addysgol Arbennig / anableddau a’u rhieni. Rydym yn cynnig hyfforddiant mewnol a chefnogaeth staff ar gyfer hyn.
__O’r cychwyn cyntaf byddwn gyda rhoi rhestr i rieni o asiantaethau a rhwydweithiau cefnogi sy’n eu hardal, fel SNAP Cymru.
__Byddwn yn sicrhau y caiff plant a’u teuluoedd eu trin yn gyfartal.

Amcanion
Yn yr Eglwys newydd mae aelod o staff wedi ei ddynodi fel Cydlynydd Anghenion Addysgol Arbennig. Mae Meinir Hughes yn ddirprwy meithrin gymwys gyda thros 5 mlynedd o brofiad yn y Blynyddoedd Cynnar. Yn Nhreganna Anna Fieldhouse sydd wedi ei dynodi fel y cydlynydd anghenion arbennig. Mae Anna yn Nyrs meithrin gyda 7 mlynedd o brofiad. Mae ganddynt ddiddordeb personol mewn anghenion arbennig a phrofiad blaenorol o weithio yn y maes hwn. Caiff anghenion a chynnydd plant ag Anghenion Addysgol Arbennig eu harolygu gan y Cydlynydd. Bydd unrhyw hyfforddiant angenrheidiol yn cael ei gwblhau gan y Cydlynydd.

Caiff plant y cafwyd fod arnynt Anghenion Addysgol Arbennig eu derbyn i’r feithrinfa ar ôl ymgynghoriad rhwng rhieni, y rheolwyr, y gweithiwr allweddol a’r Cydlynydd Anghenion Arbennig. Byddwn yn gwneud cais am unrhyw adnoddau ychwanegol ar ôl cymryd cyngor.

Rydym yn uniaethu gydag, ac yn mynd i’r afael ag anghenion penodol plant ag Anghenion Addysgol Arbennig drwy ddefnyddio ystod o strategaethau a’u gweithredu’n unol â’r Cod Gweithredu
__Gweithredu’r Blynyddoedd Cynnar
__Gweithredu Ychwanegol y Blynyddoedd Cynnar
__Asesiad Statudol
__Datganiad o Anghenion Addysgol Arbennig

__Byddwn yn addasu ac yn adolygu’r maes llafur i gwrdd ag anghenion a gallu unigol y plant pryd bynnag y bydd angen.
__Rydym yn sicrhau bod gan blant ag anghenion arbennig breifatrwydd wrth roi gofal personol.
__Byddwn yn asesu anghenion penodol pob plentyn ac addasu’n cyfleusterau fel sy’n briodol.
__Byddwn yn cysylltu gydag asiantaethau eraill, gan gynnwys yr awdurdodau Iechyd ac Addysg a gofyn am gyngor, cefnogaeth a hyfforddiant.
__Rydym yn arolygu’n dulliau a’n darpariaeth ac yn gwneud addasiadau os oes angen.
__Byddwn yn ymdrechu i wrando ar farn y plentyn yn ystod y drefn o gynllunio a gwneud penderfyniadau.
__Bydd cyfnod ymgyfarwyddo llawn yn cael ei roi i bob plentyn wrth ymuno â’r feithrinfa yn unol â’u hanghenion.
__Os teimlir na ellir cwrdd ag anghenion plentyn yn Si-lwli heb staff ac/neu offer ychwanegol byddwn yn gwneud cais am arian i sicrhau fod y ddarpariaeth yn briodol ar gyfer anghenion y plentyn.
__Byddwn yn cwblhau ac yn cadw trefn ar adroddiadau datblygu a thargedau ar gyfer pob plentyn ar gyfer y cyfnod y byddant yn Si-lwli.

Asesu ac Arolygu
Os gwelir fod ar blentyn angen unrhyw gymorth ychwanegol byddwn yn defnyddio system o gynllunio, gweithredu ac arolygu. Byddem yn gofyn am gyngor yn gyntaf gan Gydlynydd Anghenion Addysgol Arbennig y Blynyddoedd Cynnar (Awdurdod Addysg Lleol).

Bydd Cynllun Addysgu Unigol yn cael ei gwblhau gyda chefnogaeth lawn y rhieni a byddai’r rhain yn cael eu hadolygu’n rheolaidd. Mae canllawiau ar gyfer proses Gweithredu’r Blynyddoedd Cynnar wedi’u hatodi.

Cyfeirio
__Bydd y Cydlynydd Anghenion Addysgol Arbennig neu weithiwr allweddol yn penderfynu os oes anghenion ychwanegol ar blentyn.
__Cyfarfodydd trafod yn cael eu cynnal gan y Cydlynydd Anghenion Addysgol Arbennig, rheolwyr a gweithwyr allweddol. Bydd cynllun gweithredu yn cael ei lunio.
__ Byddwn yn cysylltu â Chydlynydd Anghenion Addysgol Arbennig Blynyddoedd Cynnar (Awdurdod Addysg Lleol) am ragor o gyngor ac yn cyfarfod os oes angen __Byddwn yn cysylltu â’r rhieni ac yn trefnu cyfarfod os oes angen.

 

Polisi Ymddygiad
Mae Si-lwli yn ymfalchïo yn ei gwaith o hybu awyrgylch tawel, cyfeillgar sy’n galluogi plant i ddatblygu’n naturiol heb ofn o gael eu bygwth na’u dal yn ôl. Mae’r modd rydym yn annog pawb i barchu ei gilydd i’w weld wrth fynd i mewn i’r feithrinfa. Caiff staff eu hyfforddi i ddeall yr ymddygiad naturiol fydd i’w weld ar gyfnodau amrywiol mewn oed a datblygiad. Bydd hyn yn eu galluogi i hybu lles y plant gyda threfn ddyddiol gefnogol. Mae plant yn dysgu drwy esiampl a dyma pan gaiff staff, ymwelwyr, rhieni a phlant eu hannog i arfer cwrteisi gyda’i gilydd ac i gadw at Werthoedd ein Meithrinfa.

Mae angen rheolau ymddygiad pendant ar blant er mwyn eu diogelwch eu hunain ac er mwyn diogelu a pharchu eraill. Yn Si-lwli ein diben yw gosod rheolau sy’n hybu hunanddisgyblaeth, hunan-barch ac ymwybyddiaeth o effaith eu hymddygiad arnyn nhw eu hunain ac ar eraill o’u cwmpas.

Nid yw cosbi corfforol na’r bygythiad o hynny yn cael ei dderbyn yn Si-lwli. Chaiff plant byth eu hysgwyd, eu taro, eu bychanu na’u dychryn a fyddwn ni byth yn gweiddi nac yn codi cywilydd arnynt. Fodd bynnag, yn unol â thelerau Deddf Plant 1989 efallai y bydd yn angenrheidiol i ddal plentyn yn ôl mewn argyfwng er mwyn ei atal rhag niweidio’i hun, plant eraill neu oedolyn, neu rhag iddo wneud difrod difrifol i eiddo. Caiff unrhyw ddigwyddiadau eu cofnodi ac fe hysbysir y rhiant/gofalwr o’r digwyddiad ar y diwrnod.

Hybu Ymddygiad Cadarnhaol
Mae’r holl staff yn ymwybodol eu bod yn esiampl werthfawr i’r plant ac o ganlyniad rhaid i’w hymddygiad adlewyrchu’r canlynol:

__Drwy hyrwyddo, canmol a chydnabod ymddygiad ac agweddau cadarnhaol. Rhoddir sylw cadarnhaol i ymddygiad da. Mae gan bob plentyn siart sticeri ac ar ddiwedd y dydd yn ystod sesiwn trafod gosodir sticer ar siart unigolion sydd wedi ymddwyn yn dda. Unwaith bydd gan blentyn 10 sticer byddant yn cael eu gwobrwyo drwy gael gwneud rhywbeth fel dewis eu hoff weithgaredd neu eu hoff degan i chwarae ag o.
__Bydd staff yn ymdrechu i fod yn esiamplau cadarnhaol i’r plant drwy ymddwyn fel rydym yn disgwyl i’r plant ymddwyn.
__Rydym yn sicrhau fod barn y plant yn cyfri.
__Rydym yn GWRANDO ar y plant.
__Caiff iaith gadarnhaol ei defnyddio’n ystod y dydd. Dydyn ni ddim yn defnyddio’r ymadrodd plentyn drwg nac unrhyw label negyddol. __Caiff cyfyngiadau ar awydd naturiol y plentyn i archwilio a datblygu eu syniadau a’u cysyniadau eu hunain eu cadw i’r lefel isaf fel rhan o’n trefn feunyddiol.
__Bydd staff yn cymryd cyfrifoldeb o drefnu’r ystafell fel ei bod yn haws i’r plant fod yn amyneddgar a chymryd tro. Byddwn hefyd yn rhoi dewis rhydd i blant pan fo’n bosib er mwyn hybu annibyniaeth.
__Yn ystod y dydd caiff plant eu hannog i rannu. Fodd bynnag, nid yw hi’n briodol i ddisgwyl bod plentyn yn rhannu bob tro. Mae hi’n bwysig cydnabod teimladau plant eraill a’u cynorthwyo i ddeall sut mae eraill efallai’n teimlo.
__Yn aml rydym yn defnyddio’r ymadrodd “Dyn ni’n cymryd tro pan does na ddim digon i bawb.” Er mwyn cymryd tro’n deg gellir defnyddio gwydr tywod gan y gall plant ddeall amser yn glir drwy wylio symudiad y tywod.

Pan fo teimladau’n dechrau mynd yn drech bydd staff yn cadw at y rheolau syml hyn
__Arhoswch yn dawel a than reolaeth - ystyriwch yr ymddygiad yn negyddol ac nid y plentyn
__Gwrandewch a byddwch yn ystyriol o eglurhad y plentyn
__Ystyriwch yr anghydfod a’r ymddygiad a ddangoswyd
__Ewch i lawr i lefel y plentyn wrth ymdrin ag ymddygiad anodd bob tro - gwnewch gyswllt llygaid a defnyddiwch lais tawel. Byddwch yn gefnogol. Eglurwch fod yr hyn a wnaethant yn annerbyniol ac eglurwch pam.
__Awgrymwch ffyrdd eraill y dylent ymddwyn yn lle.
__ Byddwn hefyd yn gofyn i’r plentyn fynd i weld os mae’r plentyn/person sydd wedi cael dolur yn iawn ac i ddangos eu bod yn ddrwg ganddynt.

Pan fo’r cosbau wedi bod yn aflwyddiannus defnyddir polisi ‘seibiant.’ Yn Si-lwli rhaid i blant eistedd yn y gornel dawel ar gadair benodol a bydd y staff yn cadw at y canllawiau canlynol yn ystod y cyfnod seibiant.

__Cadwch yr amser yn fyr drwy ddefnyddio gwydr tywod (1 munud, 3 munud, 5 munud) 
__Arhoswch gyda’r plentyn neu gerllaw bob amser.

Llaw dyner..
Hysbysir rhieni os yw eu plentyn yn annifyr yn gyson gyda phlant eraill, os yw eu plentyn wedi cael ei gynhyrfu neu os maent yn parhau i darfu ar y drefn feunyddiol gan greu awyrgylch ddysgu ansefydlog. Efallai y gofynnir i rieni gwrdd â’r Rheolwr a’r Gweithiwr Allweddol i drafod ymddygiad eu plentyn.

Os na fydd rhieni’n ymateb, neu os byddant yn cydymffurfio â’r cyngor a’r argymhellion a roddwyd a bod y plentyn yn parhau i darfu ar eraill, mae’r Reolwraig neu’r Perchennog yn cadw’r hawl i ddiarddel plentyn.

Mewn rhai achlysuron, gyda chaniatâd y rhiant/gofalwr, gallwn ofyn am gyngor, cefnogaeth ac arweiniad ychwanegol gan bobl broffesiynol eraill fel seicolegwyr addysg.