Read in English Read in Welsh
This site is available in English & Welsh
 
Si-Lwli Wedding Creche
website coming soon contact us for more details
 

Croeso

Croeso i safle we Si-lwli, Nia Bowen ydwi, sef y perchennog, ac mi rydw i’n gobeithio bydd y safle o gymorth i chi ac y gwnewch chi ei fwynhau.  Roeddwn i’n ffodus iawn i brynu Si-lwli yn ol ym mis Ionawr 2002. Busnes llewyrchus oedd wedi sefydlu ei hun ers 10 mlynedd yn gofalu am blant trwy gyfrwng y Cymraeg.

Cardiff Based NurseryFy uchelgais oedd gweithio gyda plant ac felly mi bendefrynais dilyn gyrfa ym maes gofal plant.  Ar ol cwblhau cwrs NNEB yn Rhydaman dechreuais fy nghyrfa fel nyrs gwyddor plentyndod ond fy nod oedd dychwelyd i weithio mewn meithrinfa. Cefais fy magu gydag egwyddorion cryf a phendant iawn, ynghyd a’r gwerthfawrogiad o fywyd cymunedol clos yng nghefn gwlad Gorllewin Cymru.  Gyda’r nodweddion yma a nghred y dylai bob plentyn ddysgu drwy chwarae, roeddwn i o’r farn y gallwn i gynnig gofal o’r ansawdd uchaf i siaradwyr Cymraeg a dysgwyr Caerdydd.

Amdanon ni

Welsh Speaking Nursery Based In CardiffMi rydan ni’ ymfalchio yn yr awyrgylch cartrefol, cynorthwyol a’r gofal rhyngweithiol mae si-lwli’n cynnig wrth ystyried anghenion holistaidd y plant.  Mae hyn oll ond yn bosib gyda’n ymrwyniad i gyfathrebu da ac adeiladu perthynas cryf rhyngom ni, y rhieni a’r plant.  Gofelir am y plant fel unigolion ac noi ystyrir eu lliw, crefydd, gallu, hul, cenedl, anallu neu credo.  Croesawn plant gydag anghenion arbennig cyn belled bod y gofal a’r amgylchedd yn addas ar gyfer eu anghenion unigol.

Gwerthoedd

Rydym yn parchu’n gilydd yn llawn a’r meithrinfa.
Byddwn yn sicrhau cyfathresu da rhwng y staff, plant a’r rhieni er mwyn cynnig y gofal gorau phosib ynghyd a sicrhau preifatrwydd bob amser.
Ein nod yw creu naws cynnes, cyfeillgar, cartrefol, hapus ac amgylchfyn diogel.
Rydym yn hyrwyddo ymddygiad ac agwedd bositif.
Ein nod yw cynnig amgylchfyd sy’n llawn hwyl a chyffro.
Rydym yn annog pawb i ddilyn polisiau a ffyrdd sydd wedi eu trefnu gan y staff er mwyn cyrraedd pob nod yn gyfun.

Ein bwriad

Welsh Child CareMae croeso i bawb yn Si-lwli.  Mae cydraddoldeb yn bwysig i ni ac mae’r plant yn cael eu trin fel unigolion.  Rydym hefyd yn cynnig cyfleuserau anabl ynghyd a dwyieithrwydd i bob plentyn a gellir dewis y Gymraeg fel yr iaith gyntaf neu fel ail iaith.  Ein nod yw darparu awyrgylch hapus a chartrefol o fewn diwrnod strwythiedig.

Mae pob plentyn yn gyfartal ac rydym yn annog y plant i barchu eu gilydd ar bob achlysur.  Rydym hefyd yn chwyddo ani-byniaeth a sgiliau datrys problemau y plant mewn awyrgylch maethlon, bywhaol.  Mae grwpiau bychan mewn nifer yn annog rhyngweithiad rhwng y plant a’r staff.  Mae hyn yn ei dro yn cynorthwyo datblygiad personol positif mewn awyrgylch addysgol, gofalus.

Crewyd amgulchfyd diogel, iach er mwyn cynorthwyo’r plant i hyrwyddo’u datblygiad cyffredinol.  Cofnodir datblygaid unigolion y plant yn eu dyddiaduron personol/adroddiadau blynyddol, sydd yn caniatau rhieni ac athrawon (yn yr ysgolion cynradd byddant yn mynychu), i ddilyn eu datblygiad a’u campau.  Rydym yn sefydlu cyfathreb effeithiol a pherthynas ymddiriedol gyda’r rhieni fel ein bod ni’n gweithio fel uned er mwyn sicrhau bod y plant yn gwireddu eu potensial.  Ein nod sylfaenol yw gweithio mewn undod gyda’r teuluoedd er mwyn sicrhau bod y plant yn gadael Si-lwli’n hapus, annibynnol, yn iach ac yn barod i wynebu’r byd.
Rydym wedi ein cofrestru ac yn cael ein llywodraethu gan y ASGC(Arolyiaeth Safonau Gofal Cymru).  Mae modd darllen ein arolwg diweddaraf ar safle we y corff yma.  Mae cyfartaledd oedolyn i bob plentyn yn y ddwy feithrinfa fel y canlynol:

• 6mis-2 mlwydd oed – 1 aelod o staff i 3 o blant
• 2-3 mlwydd oed  - 1 aelod o staff i 4 o blant
• 3-5 mlwydd oed – 1 aelod o staff i 8 o blant

Mae amodau’r cofrestr yn dylanwadu’r meithrinfeydd ac yn dirymu polisi yng nghyswllt pob derbyniad atom.  Mae plant yn cael eu derbyn i Si-lwli yn ol angheniion y rhieni/ gofalwyr.  Ffactorau eraill mae’r rhieni/ gofalwyr yn ystyried ag sy’n medru effeithio a dylanwadu lle yn y meithrinfa yw:

• Rhestr aros.  Rhoddir blaenoriaeth i’r rhieni sydd wedi cwblhau a dychwelyd y ffurflen gofrestru
• A oes lle ar gael
• Rhoddir blaenoriaeth i’r sawl sydd angen lle llawn amser
• Plant sydd a brodyr neu chwiorydd gyda ni’n barod. 
• Ein gallu i ddarparu adnoddau er lles y plentyn
• Ni wneir dirnadaeth pan mae plaentyn yn cofretru- Cydsy gyda’r deddfwriaeth 1989 sef y ‘Children’s Opportunity Act’.

Cysylltu a ni

Os hoffech gysylltu a ni er mwyn trafod cofrestru eich plentyn gyda Si-lwli Treganna neu Eglwys Newydd, ffoniwch ni ar 02920 626720 neu danfonwch e-bost i info@silwli.com

Os oes ganddoch unrhyw diddordeb mewn gweithio yma efo ni yn Si-lwli ffoniwch ni ar 02920626720 neu ebostiwch eich CV i info@silwli.com

Meithrinfa si-lwli

 


Si-Lwli Nursery Ltd
24, Park Rd, Whitchurch, Cardiff,
South Glamorgan
CF14 7BQ
Tel: 029 2062 6720


Si-Lwli
71, Romilly Rd, Cardiff,
South Glamorgan
CF5 1FL
Tel: 029 2066 7076

 

web design and marketing by aSplash.com