Hidden Navigation

Gwasanaeth Cludiant i’r Ysgol.

 

Rydym ar hyn o bryd yn cynnig gwasanaeth cludiant i Ysgol Melin Gruffydd (Eglwys Newydd) ac Ysgol y Wern (Llanisien).

 

Rydym yn ymdrechu i ddarparu wasanaeth sydd yn ateb anghenion y rhieni a phlant oed ysgol.

Felly yma yn Si-lwli rydym yn cynnal gwasanaeth clydio plant i’r ysgol (ac nol!!) mae hyn yn sicrhau bod y plant yn derbyn safon uchel o ofal cyn iddynt mynd i’r ysgol, ar y ffordd yna a pan meant yn cyrraedd nol i Si-lwli.

 

Mae’r staff yn ystyried diogelwch y plant yn ystod y chludiant, a chyfarthrebiad rhwng yr ysgol a Si-lwli yn bwysig dros ben.

 

Rheolau yr gwasanaeth: er mwyn cynnal gwasanaeth cludiant mae rhaid i ni ystyried y canlynol:

 

  1. Mae rhaid i’r ysgol bod o fewn radiws  o 5 milltir i Si-lwli
  2. Mae rhaid cael gofyn iachus am yr un ysgol gan y rhieni er mwyn cynnal y gwasanaeth i'r ysgol yna.
  3. Mae cyfanswm o 5 o blant yn cael eu cludo yn y car ar un adeg.

 

Gan fod amgylchiadau ac anghenion rhieni yn newid, mae rheolau yr gwasanaeth yn cael ei adolygu yn flynyddol ac mae pob penderfyniad yn cael ei wneud ar hawl yr rheolwyr.

 

Mae staff Si-lwli ac y tim rheoli yn ymddiried i’r canlynol:

 

Rhieni yn derbyn gwybodaeth ynglhyn ar cerbyd, copi o’r polisi a yn llofnodi ffurflen caniatad.  

 

Y cerbyd efo insiwrant o dan Dosbarth Busnes 1 a gwasanaeth torri lawr.

 

Sicrhau bod gan y car M.O.T ddilys, a tystysgrif hanes cyflawn.

 

Fydd un aelod o staff yn cydymdeithio gyda tri o blant neu llai, a dwy aelod o staff os oes fwy na hyn, cyfanswm 5 o blant. 

 

Y plant yn hapus a chyfforddus yn y car trwy siarad, chwarae miwsig, darllen llyfrau, boteli dwr ayyb

 

Dilyn canllawiau cenedlaethol ynglhyn a seddi ceir i blant, mae plant yn cael ei chludio ar seddi sudd yn addas i’w pwysau a maint.

 

Bag cymorth cyntaf yn y car ar pob adeg a bod y gyrrwyr efo hyfforddiant cymorth cyntaf.

 

Ffon symydol (dim camera) yn cael ei chario ar pob daith, a copi o rhifau cysylltu yn cael ei rhoi i’r ysgol.

 

Copi o’r trefn, polisi, map a rhest o’r plant sydd angen ei chasglu yn cael ei chadw yn y car ar pob adeg.

 

Pob gyrrwr yn meddu ar drwydded yrru llawn a lân.

 

Rydym yn gweithio’n galed i sicrhau perthnasau cryf gyda’r ysgolion, ac yn hapus i rhannu unrhyw gwybodaeth a phrofiadau efo nhw. Rydym yn hapus iawn i fynd ar plant ar ymweliadau setlo yn yr ysgol ar rhan y rhieni.

 

Gweithio gyda’r rhieni:

Mi fydd angen i'r plant ddod a bag ir ysgol/meithrinfa er mwyn gosod unrhyw lythyron a dderbynwyd gan yr ysgolion. Mi fydd y plant yn cael ei newid i fewn i'r gwisg ysgol cyn gadael ac ar ol cyrraedd yn ol os dymuna gan y rhieni.

Byddwn yn ddiolchgar am unrhyw ddyddiadau pwysig gan yr ysgol, megis dyddiau hyfforddi athrawon, tripiau ac yn y blaen. Mae'r gwybodaeth yma yn gallu dylanwadu ar niferoedd o staff sydd ei angen yn Si-lwli.

Os mae eich plentyn yn mynd i fod yn absennol o'r ysgol neu Si-lwli, byddwn yn ddiolchgar iawn am cyn gymaint o rybydd a sydd yn bosib.

Os hoffwch newid trefn y sessiynnau rydych yn ei wneud, byddwn yn ddiolchgar am fis o rybydd mewn ysgrifen.

 

 Costau’r Gwasanaeth:

Trwy’r dydd £37

Casglu amser cinio £29 (Si-lwli yn casglu eich plentyn amser cinio ac yn dychwelyd yn ol i gwario’r dydd)

Clydio i’r ysgol ar ol cinio £25 (Eich plentyn yn mynychu Si-lwli yn y bore a staff yn ei chludio i’r ysgol ar ol cinio)