Hidden Navigation

Bwyta’n iach

Mae gan blant angen dewis cytbwys o fwyd er mwyn iddyn nhw allu datblygu a ffynnu. Mae blynyddoedd cyntaf bywyd o bwys mawr i ddatblygiad person, ac yn wir dyma pryd y bydd yr unigolyn yn gosod sylfaen ei iechyd ar gyfer y dyfodol. Mae bwyd a maeth yn gonglfeini datblygiad dannedd da, esgyrn a chyhyrau cryf a meddwl iach.

Ein bwriad yma, yn Si-lwli, ydi darparu bwyd iach a maethlon ar gyfer y plant; bydd hyn yn gymorth i sefydlu arferion bwyta da ac agwedd iach at fwyd, fydd yn eu tro’n sylfaen gadarn i arferion gweddill eu bywyd. Rydym wedi enill tystysgrif cyflawniad 'Gwobr byrbryd iach safon aur' mewn partneriaeth gyda llywodraeth cynulliad Cymru a Her iechyd Caerdydd.

Mae’r pryd bwyd i fod yn achlysur cymdeithasol i’w fwynhau ac yn gyfle i blant adfer eu stôr o egni gydag amrywiaeth o fwyd maethlon a lliwgar.

Fel meithrinfa bwyta iach rydym yn darparu prydau bwyd sydd:

__heb unrhyw halen ychwanegol
__yn isel eu siwgr
__heb unrhyw Ychwanegion
__a ddim yn fwyd parod neu wedi ei brosesu

Byddwn yn dosbarthu’r bwydlenni i deuluoedd y plant bob yn chwarter ac yn eu cynnwys yn y pecyn cofrestru.

Byddwn yn gweini’r bwyd mewn powlenni ar y bwrdd bwyta er mwyn annog y plant i ddewis drostynt eu hunain. Mae llysiau i’w cael gyda neu’n rhan o bob pryd. Dŵr ydi’r ddiod a ffrwythau ffres ydi’r pwdin. Byddwn bob amser yn rhoi ystyriaeth i ofynion arbennig o ran bwyd pan fyddwn yn cynllunio’r arlwy ac mae bwyd llysieuol ar gael hefyd.

Rydym yn annog y plant i olchi eu dannedd ar ôl cinio ac mae dŵr yfed ar gael, a ffrwythau ar werth, drwy’r dydd.

Ar gyfer y babanod (Eglwys Newydd):
Byddwn yn darparu pob pryd a byrbryd. Mae’r bwyd yr ydym yn ei baratoi yn ffres ac wedi ei baratoi ar gyfer anghenion penodol pob baban. Mae’r hyn y mae’r baban yn ei fwyta’n cael ei gofnodi o fewn dyddiadur y baban hwnnw.

Byddwn yn darparu’r holl laeth fydd ei angen, yn cynnwys llaeth potel, ac mae modd gwneud trefniadau ar gyfer mamau sy’n bwydo ar y fron.

Er mwyn lawrlwytho copi o'r bwydlen diweddarach, cliciwch yma.