Croeso
Mae Si-lwli’n feithrinfa gofal dydd cyfrwng Cymraeg lle byddwn yn rhoi pwyslais mawr ar anghenion ieithyddol ein teuluoedd. Ein bwriad ydi cwrdd ag anghenion cyfannol plant bychain mewn amgylchedd cartrefol, cyfeillgar a chefnogol. Rydym yn rhoi pwyslais mawr ar adeiladu cysylltiadau personol cryf gyda theuluoedd y plant ac o’r herwydd yn gweld cyfathrebu da rhwng y staff a’r teuluoedd yn hanfodol.
Rydym yn credu bod gan blentyn hawl i chwarae, chwilio ac ymchwilio i’w amgylchedd, yn y tŷ a thu allan ac o ganlyniad rydym ni’n rhoi llawer o gyfle i’r plant wneud hynny. Rydym ni hefyd yn cynorthwyo’r plant i gydnabod pwysigrwydd byw’n iach.
Rydym yn gofalu am bob plentyn fel unigolyn, waeth beth ydi ei liw, rhyw, crefydd, gallu, hil neu gredo. Mae croeso yma i blant ag anghenion arbennig, cyn belled a bod yr amgylchedd yn addas ar gyfer eu hanghenion penodol. Ac mae Amddiffyn Plant yn fater yr ydym yn ei gymryd o ddifrif.

